Blog

Newid Hinsawdd, Newid Byd

20.02.19 Postwyd gan: Steffan Griffiths @SteffGriff

Mae Steffan Griffiths yn wyneb cyfarwydd iawn i wylwyr S4C - yn enwedig y rhai sydd â diddordeb mewn rhagolygon y tywydd.

 

Nawr mae Steffan wedi mynd a’i arbenigedd o ddarogan os mai gwynt, law neu haul fydd yn ein disgwyl i uchafion newydd mewn rhaglen arbennig ar S4C - Newid Hinsawdd, Newid Byd.

 

Ac yn ymuno â Steffan fydd y cyflwynydd Daf Wyn o raglen Heno a Prynhawn Da. Mae’r ddau eisoes wedi bod ar ddwy daith gyda’i gilydd ar gyfer y rhaglenni Everest Steff a Daf (2016) a Crwydro Clwyd (2018).

 

Mae Newid Hinsawdd, Newid Byd sy’n cael ei darlledu ar Nos Sul, 3 Mawrth am 9.00 yn edrych yn ôl ar y tywydd eithafol yn 2018 a’r rhesymau dros y sefyllfa hinsoddol mae Cymru a’r byd yn dioddef ar hyn o bryd.

 

“Ni’n edrych ar y ‘Dihiryn o’r Dwyrain’, yr haf sych a’r llifogydd wnaethom ni brofi llynedd ac yn holi os ydynt yn gysylltiedig gyda chynhesu byd-eang a hefyd os bydd mwy o’r tywydd hyn ar y ffordd,” meddai Steffan o Beniel, ger Caerfyrddin sydd, ynghyd â chyflwyno’r tywydd, yn Radd-Feistr mewn Rhewlifeg.

 

“Mae hon yn rhaglen wahanol iawn i’r ddwy eraill,” meddai Steffan. “Ry’n ni’n siarad â phobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y tywydd eithafol yn ogystal ag arbenigwyr yn y maes gan gynnwys Dr Arwyn Edwards sydd wedi bod yn astudio patrymau tywydd yn yr Arctig am 12 mlynedd.

 

“Ry’n ni’n mynd draw at Brifysgol ETH Zurich i siarad â Dr Huw Cathan Davies - Cymro Cymraeg yn wreiddiol o Rydaman - sy’n un o arweinwyr mwyaf y byd ym maes newid hinsawdd.”

 

Felly - a oes gobaith i’r blaned yn y dyfodol? Wel - dyw’r newyddion ddim yn ddrwg i gyd ac yn ystod y rhaglen mae Steffan a Daf yn ymweld ag Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig - IBERS (Institute of Biological, Environmental and Rural Sciences) Prifysgol Aberystwyth i weld beth sydd yn cael ei wneud yng Nghymru i atal y problemau amgylcheddol rydym fel gwlad yn wynebu.

 

“Maen nhw’n gwneud ymchwil er mwyn datblygu cnydau sy’n gallu gwrthsefyll tymereddau eithafol neu lifogydd,” esboniodd Steffan. “Mae cynlluniau i edrych ar sut gallwn ddefnyddio dŵr o hen byllau glo yn ne Gymru fel ffynhonnell o wres geothermol er mwyn cynhesu tai a chynhyrchu egni gwyrdd.”

 

Mae Steffan yn disgrifio Newid Hinsawdd, Newid Byd fel rollercoaster ride. “Mae’r blaned mewn sefyllfa fregus tu hwnt, ac mae gofyn i ni gyd gwneud ein rhan ar fyrder. Ry’n ni’n gobeithio y bydd y rhaglen yn taflu goleuni ar y pwnc,” meddai.

Tywydd - Tamed i aros pryd ...

03.01.19 Postwyd gan: Steffan Griffiths @SteffGriff

Pan yn edrych nôl ar 2018, un peth sydd yn aros yn y cof yw’r tywydd. Roedd 2018 yn flwyddyn o eithafion yng Nghymru a thu hwnt.

Wrth i ni groesawu’r Gwanwyn a Dihiryn y Dwyrain fe dorrwyd record am y diwrnod oeraf erioed ar gyfartaledd ar gyfer mis Mawrth, ychydig o fisoedd yn hwyrach ac fe roedde ni’n ffarwelio ag un o’r Hafau poethaf ar gofnod, cyn i ddyffrynnoedd Tywi a Teifi brofi’r llifogydd gwaethaf ers dros 30 mlynedd yn yr Hydref.

Mae wir wedi bod yn flwyddyn eithafol o ran y tywydd, ond ai dyma flas o’r hyn sydd i ddod mewn hinsawdd sydd yn newid?

Wedi degawdau o gasglu cofnodion ac edrych ar batrymau, mae’n partneriaid yn y Met Office yn rhagweld y gallai ein hafau fod 56% yn sychach a 5.9C yn gynhesach erbyn y flwyddyn 2070, gyda’n gaeafau yn 29% yn wlypach a 4.1C yn gynhesach. Mae atmosffer cynhesach wrth gwrs yn dal fwy o leithder, ac mae mwy o leithder yn golygu fwy o stormydd.

Dihiryn y Dwyrain

Mewn byd sydd yn cynhesu mae ‘na sawl unigolyn yn meddwl mai rhywbeth i’r gorffennol fydd dihuno ag eira ar y llawr, ond fel sydd wedi cael ei brofi, mae hyn yn anghywir. Cywir, mae’n debygol fydd y dyddiau hynny yn lleihau mewn niferoedd, ond mae’n bwysig cofio mae cynnydd graddol tuag at byd cynhesach yw Cynhesu Byd Eang, ac yn sgil hynny - Newid Hinsawdd, byddwn dal i dderbyn cyfnodau o dywydd oerach ynghanol y tuedd cynhesach.

Ond wrth i ni groesawu’r Gwanwyn ar Fawrth y 1af roedd Dihiryn y Dwyrain yn ei anterth a’r amodau ar draws Cymru yn rhyfeddol gyda’r cyfan wedi dod i stop. Cofnododd Tredegar dymheredd o -9.4C, bu lluwchfeydd dros 50cm ym Mro Morgannwg, hyrddiadau gwynt 66mya yn Aberdaron a chychod yn Marina Caergybi wedi’u chwalu’n ddeilchion yn nannedd Storm Emma. Dyma’r tro cyntaf hefyd ers 2013 i’r Met Office gyhoeddi rhybudd coch – rhybudd sydd yn golygu risg i fywyd – i ardaloedd y de.

Sychder yr Haf

Wedi gobeithio am dywydd sych wedi’r Gwanwyn hwyr, parhau wnaeth y gwres a’r sychder gydol yr Haf, â hynny yn arwain at un o’r hafau poethaf, sychaf a mwyaf heulog ar gofnod.

Dechrau digon ansefydlog bu i Fehefin, ond erbyn chwarter olaf y mis, gwasgedd uchel oedd yn dylanwadu a cue y cyfnod sych a chynnes. Gyda’r tymheredd yn cyrraedd 30.4C ym Mhenarlâg ar y 26ain, arweinodd hyn at y Mehefin cynhesaf ar gofnod.

Ymlaen i Orffennaf a gwelwyd tannau gwyllt mewn sawl ardal o Gymru, gwelwyd y cronfeydd dŵr yn crebachu’n raddol a’r sychder yn achosi pryder mawr i amaethwyr y wlad. Fe ddaethpwyd i’r casgliad gan y Met Office bo’ Haf 2018, yr un a dorrwyd pob record, tri deg gwaith yn fwy tebygol o ddigwydd oherwydd effaith gweithgaredd dynol a chynhesu byd eang.

Ymhellach, bu 2015, 2016, 2017 a 2018 i gyd yn gynhesach na’i gilydd, ac mae disgwyl hefyd i 2019 fod yn gynhesach fyth sy’n golygu erbyn diwedd 2019, bydd 19 o’r 20 mlynedd cynhesaf ar gofnod wedi digwydd ers dechrau’r mileniwm.

Mynydd Llantysilio ger Llangollen

Llifogydd yr Hydref

Wedi’r Haf sych a chynnes yr angen am law oedd pwynt trafod y tywydd ar hyd ac ar led y wlad, ac yn yr Hydref, gwelodd rhannau o’r wlad y llifogydd gwaethaf ers 30 mlynedd. Ar y 12fed o Hydref gwnaeth Storm Callum ollwng 160mm o law yn Libanus (Powys), cafwyd hyrddiadau gwynt 86mya yng Nghapel Curig (Gwynedd), yr Afon Tywi yn llifo dros 7m o uchder yng Nghaerfyrddin, ac yn ogystal, roedd yn hynod o fwyn gyda’r tymheredd yn aros uwchlaw 16.5C ar noson y 12fed. Mae atmosffer cynhesach wrth gwrs, fel y soniais, yn dal fwy o leithder …

Llifogydd Caerfyrddin

 

Tywydd eithafol y byd

Yn ogystal a’r tywydd eithafol yng Nghymru, mae ‘na dywydd eithafol wedi bod yn digwydd ar draws y byd bron yn wythnosol. Gan enwi ond rhai enghreifftiau, gwelwyd corwyntoedd pwerus ofnadwy yn UDA a’r Philippines ar yr un pryd, disgynnodd eira yn y Sahara a bu Diolchgarwch (Thanksgiving) yn yr UDA yn un o’r oeraf ar gofnod. Cafwyd tannau gwyllt yng Nghaliffornia, Sweden a Groeg, cyfnodau cynnes iawn yn Ewrop, Yr Arctic, Japan ac Awstralia, stormydd a glaw trwm ar hyd y Balkans a llifogydd sydyn ar hyd strydoedd Groeg. Does neb, mae’n amlwg, allan o grafangau tywydd eithafol.

2019 …

Pwy a ŵyr be ddaw o 2019 gan fod y tywydd yn newid o ddydd i ddydd, ond dyma chi flog sy’n rhoi tamaid i aros pryd. Ym mis Chwefror fe fydd ‘na raglen ddogfen arbennig yn cael ei darlledu ar S4C ble fydda i a Dafydd Wyn o raglen ‘Heno’ yn ymchwilio’n fanylach i dywydd eithafol 2018, ei gysylltiad gyda chynhesu byd eang, ond, gan hefyd gwrdd â Chymry sydd yn gwneud gwaith blaenllaw yn y maes heriol yma. Felly, cadwch lygad am y rhaglen arbennig honno fydd yn ymddangos ar eich sgrïn canol mis Chwefror 2019 …

 

 

Ar fin troi'n oerach ...

15.11.18 Postwyd gan: Steffan Griffiths @SteffGriff

Ar fin troi’n oerach …

Yn ddiweddar ry’ ni wedi bod yn mwynhau tywydd gymharol fwyn wrth i lif aer deheuol arwain at y fath o dymereddau y disgwylir ar gyfer cychwyn, nid ddiwedd yr Hydref. Ond mae ar fin newid, oherwydd wythnos nesaf mi fydd hi dipyn yn oerach, a’r oerfel yn debygol o barhau tan ddechrau Rhagfyr.

Pam?

Erbyn wythnos nesaf gwasgedd uchel dros Sgandinafia fydd yn dylanwadu ar ein tywydd, a gyda’r gwyntoedd yn chwythu’r un cyfeiriad a bysedd y cloc o amgylch ardal o wasgedd uchel (chwythu gwrthglocwedd o amgylch gwasgedd isel), mi fydd yn tynnu aer oer ar draws Ewrop sydd yn deillio o Sgandinafia a gogledd Rwsia.

Yn ogystal â’r aer oerach, mi fydd y gwyntoedd dwyreiniol – gwynt traed y meirw – yn gwneud i bethau deimlo’n oerach. Felly, yr wythnos hon mae’r tymheredd cwpwl o raddau yn uwch na’r cyfartaledd, ond, yr wythnos nesaf mi fyddant gwpwl o raddau islaw’r cyfartaledd. Nid oes disgwyl i’r tymheredd fod yn uwch na 6 – 7°C, ond ychwanegwch ffactor y gwynt ac mi fydd hi’n teimlo mwy fel 2 – 3°C.

Anarferol adeg yma o’r flwyddyn?

Mae tywydd oer a’r tymheredd yn y ffigyrau sengl yn weddol gyffredin adeg yma o’r flwyddyn, a rheiny (mewn llif aer gogleddol) wedi digwydd yn 1996, 1998, 1999, 2005, 2015, 2016 ac 2017. O’r rhain, 1996 a 2005 yw’r amlycaf wrth i’r oerfel ddod law yn llaw ag ychydig o eira.

Ond, mae derbyn cyfnod oer mewn llif aer dwyreiniol adeg yma o’r flwyddyn rhywfaint yn fwy anghyffredin, â hynny wedi digwydd dwywaith yn y 30 mlynedd ddiwethaf yn unig; 1985 a 2010. Ym 1985 disgynnodd y mercwri i’r ffigyrau sengl erbyn canol y mis, cyn disgyn yn agos i’r rhewbwynt erbyn diwedd y mis.

Erbyn diwedd mis Tachwedd 2010, disgyn yn agos os nad islaw’r rhewbwynt oedd hanes y mercwri eto, gyda thymheredd cyfartaledd canolbarth Lloegr (CET – set o ddata tymheredd hiraf yn y byd) ar gyfer mis Tachwedd yn mesur -1.0°C a chawodydd eira’n disgyn yn eang ar draws y DU.

Ry’ ni’n hyderus bod y tywydd yn mynd i oeri erbyn wythnos nesaf a thu hwnt, ond mae ‘na dal i fod ansicrwydd yn y manylder ar hyn o bryd. Felly, yn ôl yr arfer cadwch lygaid ar y bwletinnau ac ar ein gwefanau cymdeithasol dros y dyddiau nesaf am y diweddaraf, ond yn bwysicach oll efallai, mae’n bryd i chi dynnu a chadw’r dillad gaeafol allan o’r cwpwrdd ddillad.

 

Oeri

27.10.18 Postwyd gan: Megan Williams @meganeleri

Oerfel Y Penwythnos

Ydych chi allan yn crwydro Cymru yn ystod heddiw ac yfory? Yn bendant, mi newch chi sylwi yn eithaf cyflym ar ôl camu allan ei bod hi wedi oeri’n sylweddol! Ond pam? Mae 'na aer oer iawn yn ein cyrraedd o’r gogledd, yn tarddu ymhell yn ôl yn yr Arctig. Wrth gwrs, mae’r gwyntoedd gogleddol a gogledd-orllewinol yma yn oer iawn ac hefyd yn gryf yn enwedig heddiw (Sadwrn).

 

 

Mi fydd y gwynt yma yn cario rhai cawodydd ac oherwydd y cwymp mewn tymheredd, mi fydd rhai o’r cawodydd yn aeafol (eirlaw) a rhain yn disgyn yn bennaf at dir uchel y gorllewin, Eryri yn bennaf. Erbyn yfory (Sul), mi fydd hi’n parhau i deimlo’n oer ond mewn gwyntoedd ysgafnach fydd hi ddim mor oer. Mi fydd hi’n ddiwrnod hydrefol perffaith yn sych, heulog ac oer. Gwisgwch yn gynnes ac ewch allan i fwynhau lliwiau’r hydref yn eu hanterth.

 

 

Yn ystod yr amser yma yn y flwyddyn mae disgwyl i’r tymheredd gyrraedd 13°C at ei uchaf ond y penwythnos hwn fyddwni'n lwcus i weld y tymheredd yn cyrraedd yn uwch na 7 neu 8°C. Wrth ychwanegu’r gwyntoedd cryf gogleddol fydd hi’n teimlo hyd yn oed yn oerach, yn teimlo yn agosach at 1-4°C yn ystod y dydd. Mi fydd y tymheredd yn disgyn i -2°C at ei isaf dros nos heno eto a mae disgwyl iddi rewi mewn ambell ardal a ble fydd cawodydd wedi disgyn yn ystod y dydd o bosib yn troi’n rhewllyd!

 

Ond dim eira? Na, mae eira yn go anghyffredin ar dir isel yn ystod mis Hydref gan bod tymheredd arwyneb y môr o gwmpas arfordir Prydain, yn ystod yr amser yma o’r flwyddyn, yn parhau yn agos iawn at ei bwynt cynhesaf.

 

 

Y tro diwethaf i Gymru weld eira sylweddol ar dir isel yn ystod mis Hydref oedd yn 2003, 20-22ain o’r mis. Y tro diwethaf i ni brofi oerfel tebyg y flwyddyn yma oedd yn ystod dechrau mis Mawrth yn ystod cyfnod y ‘Beast from the East’ ac yna yn hwyrach ymlaen yn y mis 17-19eg o Fawrth.

Felly dyma flas byr o’r gaeaf, erbyn diwedd wythnos nesa, hanner tymor wrth gwrs, mi fydd hi’n troi’n ansefydlog ac yn fwynach unwaith eto. A chofiwch droi’r clociau yn ôl cyn mynd i’r gwely heno! 

 

Storm Callum

15.10.18 Postwyd gan: Steffan Griffiths @SteffGriff

Dihiryn y Dwyrain, Sychder mawr yr Haf, a nawr Storm Callum, dim ond pennod arall ynghanol blwyddyn o dywydd eithafol yng Nghymru.

Bu’r penwythnos a fu yn un eithriadol. Gwelwyd glawiad wnaeth barhau am deuddydd a hanner gan roi cyfansymiau anhygoel, o ganlyniad, chwyddodd yr afonydd gan achosi’r llifogydd gwaethaf yn Sir Gâr am 30 mlynedd, a hyn wrth gwrs yn achosi sgil-effeithiau megis tirlithriadau, cau heolydd, ac mewn un achos anffodus, gŵr 21 oed yn colli ei fywyd.

Mae’n anodd credu efallai bod natur yn medru gwneud gymaint o ddifrod mewn cyn lleied o amser, ond gyda’r byd yn cynhesu, sydd yn galluogi’r atmosffer ddal fwy o leithder, sydd yn ei dro yn arwain at stormydd mwy o faint, mae’n dangos fod natur wastad yn ennill.

Felly dyma ‘chydig o ffigyrau glawiad y penwythnos sydd yn anghygoel, gyda sawl ardal wedi derbyn ymhell uwchben cyfartaledd y mis (170mm) mewn dim ond deuddydd a hanner:

 

Lleoliad

Cyfanswm (mm)

Cyfartaledd (mm)

Cronfa Crai

212

170

Llyn y Fan

210

Canolfan y Bannau

199

Hirwaun

196

Maerdy

194

Tyn Y Waun

193

 

*Cyfansymiau o orsafoedd glawiad Cyfoeth Naturiol Cymru

Felly beth achosodd hyn?

Wythnos diwethaf roedd y jetlif yn ‘amplified’. Golygir hyn fod y jetlif yn plymio dros Fôr yr Iwerydd cyn troelli’n sydyn eto a llifo i’r gogledd o Brydain. Pan mae hyn y digwydd, mae’r gwasgeddau isel sydd yn cyrraedd y DU yn deillio o’r trofannau, ac oherwydd eu cyfeiriad yn tynnu mewn aer mwyn a llaith.

Yn ychwanegol, yn lle bo’r ffryntiau tywydd yn symud yn syth ar draws Cymru o’r gorllewin i’r dwyrain yn weddol cyflym, roeddent yn symud mewn llinell o’r de-orllewin i’r gogledd-ddwyrain. Canlyniad hyn yw band o gymylau sy’n ymestyn am filltiroedd lawer, a glaw di-baid a thrwm am gyfnod o amser. Dangosir hyn yn glir o’r llun lloeren dydd Sadwrn gyda Storm Callum i’r gogledd a Chorwynt Leslie i’r de, â rhain yn cael eu cysylltu gyda’r cymylau sydd dros y DU.

 

Beth sydd i ddod?

Newyddion da i nifer dwi’n siwr, ond mae’r wythnos hon yn edrych yn fwy sefydlog. Heblaw am ychydig o law ysgafn nos Fawrth, mi fydd hi’n wythnos sych ar y cyfan, gan droi’n sychach, brafiach, ond hefyd yn oerach gyda’r nos, ddiwedd wythnos wrth i wasgedd uchel ddylanwadu. Cyfnodau tawel yn y tywydd fydd yn gallugoi’r afonydd gilio nôl i ffiniau eu glannau.

Tywydd neu Gynhesu Byd Eang?

26.09.18 Postwyd gan: Steffan Griffiths @SteffGriff

Mae 2018 wedi bod yn dipyn o flwyddyn o ran y tywydd - Gaeaf gwlyb, Gwanwyn oer ac wrth gwrs Haf sych a chynnes, gyda’r rhan gyntaf o’r Haf y sycha’ ar gofnod. Felly ai’n syml blwyddyn anghyffredin o dywydd ry’ ni wedi’i gael, neu a’i dyma Newid Hinsawdd ar waith?

Fel yr arfer does ‘na ddim ateb syml i’r cwestiwn. Mae tywydd yn cyfeirio at y newidiadau byr-dymor sydd yn digwydd i’r tywydd, tra bo’ hinsawdd yn cyfeirio at y newidiadau hir dymor yn ein hinsawdd dros y blynyddoedd, degawdau neu ganrifoedd. Does dim modd dweud felly fod un digwyddiad penodol, megis Dihiryn y Dwyrain neu’r haf sych a chynnes, o ganlyniad i newid hinsawdd, ond, credaf fod y digwyddiadau hyn gyda’i gilydd, ynghyd â’r tywydd eithafol sydd wedi bod ar draws y byd eleni ac yn ystod yr 21ain ganrif yn dystiolaeth o newid hinsawdd yn sgil cynhesu byd eang o ganlyniad i weithgaredd dynol, a dyma pam …

Mae’r byd wedi cynhesu mwy na 1°C ers y chwyldro diwydiannol, lefelau carbon wedi cynyddu o 280 i 408ppm, a 17 o’r 18 mlynedd cynhesaf ar gofnod wedi’u cofnodi ers y flwyddyn 2000.

Mae Cytundeb Paris – cytundeb sydd yn cyfuno bron i 200 o wledydd y byd a’u hymrwyniad i leihau allyriadau carbon ac i gadw’r cynnydd mewn tymheredd yn is na 2°C o’r hyn roedd cyn y chwyldro, gan drio i gadw islaw 1.5°C. Gyda chynhesu o 2°C, bydd y moroedd yn parhau i gynhesu, Atlantic Meridonial Overturning Circulation (AMOC), sef cerryntau sydd yn gyfrifol am gludiant dŵr cynnes i ledredau uwch, a dŵr oer, dwfn i ledredau is, yn gwanhau (gydag astudiaethau diweddar yn dangos fod hwn yn gwanhau yn barod (Rahmstorf et al., 2015; Caesar et al., 2018)), ac mae’n debygol fydd cyfnodau cynnes yn digwydd yn amlach ac yn parhau am hirach (IPCC, 2011).

Dyma rhywbeth sydd wedi’i grybwyll mewn astudiaeth gafodd ei gyhoeddi canol Awst ym mhapur Nature Communications (https://www.nature.com/articles/s41467-018-05256-8) ble soniwyd y gall patrymau sydd yn blocio tywydd a chynhesu yn yr Arctig arwain at “extreme extremes”.

Ffigwr 1. Llinell du yn dynodi tymheredd blynyddol y byd, a’r linell goch yw’r data wedi’i lyfnhau dros gyfnod o 5 mlynedd (NOAA).

Pam? Ffactor mawr sydd yn dylanwadu ac yn effeithio ar ein tywydd yw’r jetlif, ac mae hwn yn cael ei yrru gan y gwahaniaeth mewn tymheredd rhwng aer oer y pegwn ac aer cynhesach y trofannau. Ond wrth gwrs, gyda’r Arctig yn cyhesu’n raddol mae’n golygu fod y gwahaniaeth mewn tymheredd yn lleihau, y jetlif yn gwanhau, a’r systemau tywydd yn fwy tebygol o aros yn eu hunfan yn hirach. Ac ry’ ni wedi gweld enghraifft o hyn eleni gyda rhannau o’r Arctig yn cyrraedd 30C, y jetlif yn llifo i’r gogledd gan arwain at fisoedd gwlypaf (Mai) a mwyaf cymylog (Mehefin) ar gofnod i Reykjiavik, tra fod ardal o wasgedd uchel cyson, wedi gadael rhannau o Ewrop yn berwi rhan helaeth o’r Haf. 

Gwelodd Glasgow (31.9°C), Shannon (32°C), Tbilsi (40.5°C), ac Ouargala (Affrica) (51.3°C) eu diwrnodau cynhesaf ar gofnod, i enwi ond rhai. Ym mis Ebrill, cofnododd Pakistan y diwrnod cynhesaf erioed ar wyneb y ddaear ar gyfer y mis hwnnw; 50.2°C. O ganlyniad i wres llethol, lladdwyd 65 o bobol yn Siapan, bron 60 yn Groeg a 70 mewn dinasoedd ar draws Canada. Fe all y rhestr fynd ‘mla’n a ‘mla’n, ac eto does dim modd cysylltu un digwyddiad pendol gyda chynhesu byd eang, ond, gyda’i gilydd, mae’r amrywiaeth yma ymhob cornel o’r byd nid yn unig eleni ond hefyd dros y blynyddoedd diwethaf yn brawf o’r byd yn cynhesu wrth i lefelau Carbon y byd gynyddu o ganlyniad i weithgaredd dynol.

Ond beth am Haf poeth 1976?

Yn debyg i aeaf caled 1963, mae Haf poeth 1976 yn cael ei drafod yn gyson. Bu sychder mawr gyda’r cronfeydd yn rhedeg yn isel, adeiladau Capel Celyn a Brianne yn dod i’r fei, rheoleiddio defnydd dŵr a chnydau’n rhedeg yn brin. Ond y gwahaniaeth mawr rhwng 2018 ac 1976 yw tymheredd y byd. Ym 1976 roedd Prydain a gogledd-orllewin Ewrop yn ddarn o goch ynghanol byd o liw glas, gan fwya’; ond erbyn 2018, prin iawn yw’r glas sydd i’w weld – arwydd clir bo’r byd wedi cynhesu (Ffigwr 2). Edrychwch yn ehangach fyth ar gyfartaledd tymheredd yr Haf ers 1951, a digon hawdd yw gweld y newid i fyd oren, byd cynnes (Ffigwr 3).

 

Ffigwr 2. Cyfnod cynnes Prydain ym 1976 yng nghanol byd o liw glas (chwith); Lliw coch yn fwy amlwg a’r byd wedi cynhesu erbyn 2018 (Dde) (NOAA).

 

Ffigwr 3. Y byd yn raddol newid lliw i oren wrth i lefelau CO2 a’r tymheredd gynyddu dros y degawdau.

 

Beth am weddill y ganrif?

Mae’r byd wedi cynhesu 1°C ers y chwyldro diwydiannol yn barod ac ry’ ni’n anhebygol o gadw’r cynydd islaw 1.5°C. Yn dibynnu ar agwedd a blaenoriaethau, mae modd cadw’r cynydd islaw 2°C os mae’r camau priodol yn cael eu cymryd yn syth. Ond, mi fydd y siwrnau’n hir os mae penderfyniadau megis buddsoddi £14 Biliwn mewn Maes Awyr yw’r ffordd ‘mlaen, tra, ar yr union ddiwrnod, gwrthod buddsoddi £1.3 Biliwn mewn prosiect egni adnewyddadwy, glân.

Er mwyn cadw’r cynhesu islaw 2°C, mae’n golygu fydd angen i gyfanswm allyriadau CO2 fod tua 2900GtCO2 (IPCC, 2011), ac ar hyn o bryd, ry’ ni wedi allyrru tua 2100GtCO2.  Efallai fydd Haf 2019 yn wlypach ac yn oerach na’r arfer, ond dyma natur tywydd, achos yn hir dymor cynhesu yw’r patrwm ac mae Haf eleni wedi rhoi blas o’r hyn sydd i’w ddisgwyl wrth i’r byd ddod yn le cynhesach.

 

 

Helynt Helene ...

16.09.18 Postwyd gan: Steffan Griffiths @SteffGriff

Digon tawel fydd y tywydd yfory ar gychwyn wythnos waith arall, ond yn raddol, mi fydd yn cymylu a’r gwyntoedd yn cryfhau erbyn iddi fachlud diolch i Storm Helene.

Mae disgwyl i’r storm, sydd wedi cychwyn ei bywyd fel corwynt yn y trofannau, gyrraedd glannau Sir Benfro yn gyntaf cyn crwydro ar hyd Bae Ceredigion a chyrraedd Gwynedd, Ynys Môn ac arfordir y Gogledd. Mae disgwyl hyrddiadau rhwng 50 – 60mya, gyda’r gwyntoedd ar eu cryfa’ rhwng 21:00 ac 01:00 bore Mawrth, a dyma sydd wedi ysgogi’r rhybudd melyn o wynt i’r ardaloedd sydd i’r gorllewin o’r mynyddoedd.

Symud yn gyflym fydd Helene beth bynnag, achos erbyn iddi wawrio bore dydd Mawrth mi ddylai’r gwyntoedd fod wedi gostegu, gan adael diwrnod cymylog ar y cyfan gydag ambell gawod prin.

Tu hwnt i hynny mae ‘na dipyn o ansicrwydd yn y rhagolygon. Ond, mae’n edrych yn debyg fydd dydd Mercher yn ddiwrnod glwyb (am gyfnod) a gwyntog arall.

Digon tebyg fydd y tywydd dydd Iau wrth i ffrynt arall yn gysylltiedig gyda gwasgedd isel ledu ar draws Cymru, ond yn clirio gan adael diwrnod o gawodydd erbyn dydd Gwener.

Felly gyda’r jetlif yn llifo uwchben Cymru yr wythnos hon, mae’n deg i ddweud mi fydd yn wythnos digon ansefydlog, ac yn ychwanegol i Storm Helene, mae ‘na siawns y bydd storm cyntaf y tymor yn cael ei henwi gan y Swyddfa Dywydd neu Met Éireann – cadwch lygaid ddyddiol felly!

Croesawu'r wythnos mewn crys-t, ffarwelio mewn siwmper!

10.09.18 Postwyd gan: Steffan Griffiths @SteffGriff

Croesawu’r wythnos mewn crys-t, ffarwelio mewn siwmper!

Wrth i ni garlamu trwy fis Medi a cholli 4 munud o olau dydd, pob dydd, mae’r naws yn newid a’r Hydref yn dechrau cymryd gafael, yn araf bach.

Ry’ ni’n cychwyn yr wythnos waith o dan flanced o gymylau (sydd yn ymestyn yr holl ffordd ar draws Môr yr Iwerydd). O ganlyniad, mae’r tymheredd fel y disgwylir, mae’r gwyntoedd yn ysgafn, ac mae’n parhau yn sych, am nawr …

Heno beth bynnag, cyfres o ffryntiau sydd yn mynd i fod yn lledu ar draws Cymru, a gyda rhain yn araf yn symud mi fydd hi’n ddiflas ar draws Cymru gyfan ddydd Mawrth, ond o leiaf yn parhau’n gymharol fwyn.

Gyda’r ffryntiau’n clirio ddydd Mercher, mi fydd ‘na naws wahanol i’r tywydd wrth i fàs aer Pegynol Arforol ledu ar draws Cymru. Gyda hyn, mi fydd y glaw yn clirio, yr heulwen yn troi’n fwy tesog, ac mi fydd hi dipyn yn fwy ffres. Y ffigyrau’n dangos 15 – 16C, ond yn teimlo’n nes at 11 – 13C mewn gwynt o’r gogledd-orllewin – oerach fyth gyda’r nos wrth i’r thermomedr ddisgyn i’r ffigyrau sengl.

Digon tebyg fydd hi erbyn ddiwedd yr wythnos hefyd, ond fel y disgwylir yn y math yma o fàs aer mi fyddwn yn gweld mwy o gawodydd yn ymddangos yn y rhagolygon felly’n ogystal â’r siwmper, efallai mi fydd yn syniad i gadw’r gôt law ‘na a’r ymbarél wrth law hefyd.

Beth am y penwythnos ac wythnos nesaf?

Mae’n edrych yn debyg mae gwasgedd uchel fydd yn dylawnadu eto erbyn y penwythnos sydd yn golygu y bydd hi’n troi’n fwy sefydlog ac yn cynhesu unwaith eto. Tu hwnt i hynny, mae’n anodd rhagweld y tywydd gydag unryw gywirdeb o ganlyniad i ddechrau bywiog i dymor y corwyntoedd. Ar hyn o bryd, nid yw’n edrych yn debyg y bydd corwyntoedd Florence, Isaac na Helene yn cael fawr o effaith uniongyrchol ar ein tywydd, ond, os fydd un yn newid llwybr ac yn symud yn fwy gogleddol na’r disgwyl, yna mi all gael effaith ar leoliad y jetlif, fydd yn ei dro yn cael effaith ar ein tywydd ni.

Felly, fel yr arfer cadwch lygad yma, ar y teledu a hefyd ein gwefannau cymdeithasol (@S4CTywydd) am y rhagolygon diweddaraf.

Tywydd sefydlog

23.05.18 Postwyd gan: Megan Williams @meganeleri

Tywydd sefydlog

Ar y cyfan, mae mis Mai wedi dod â thywydd teg. Rydym wedi deffro i nifer o ddyddiau sych a braf â’r tymheredd yn aml wedi cyrraedd yr 20au yn enwedig tua’r dwyrain. Gwlewyd y Dydd Llun Gŵyl y Banc cynnar cynhesaf ar gofnod, wedi cyrraedd 26°C yn Felindre. Ac mae hi wedi bod yn y sych iawn yn ystod y mis. Dydi hi heb fwrw glaw yn sylweddol ers y 9fed o Fai! Unwaith eto ddoe, cafwyd diwrnod hyfryd gyda Phorthmadog yn cyrraedd 26°C, y man cynhesaf ym Mhrydain.

Ac unwaith eto heddiw, mae Cymru yn mwynhau tywydd braf sy’n rhoi blas o’r haf inni gyd! Pam y tywydd sefydlog? Yn syml, lleoliad y Jetlif. A beth yw’r Jetlif?  Dyma sy'n diffinio ein tywydd h.y tywydd da neu wael. Mae’n gallu chwythu ar gyflymder o 200mya gan symud systemau tywydd o gwmpas y glôb. Mae’n gorwedd yn uchel iawn, 9-16 Cilomedr uwchlaw arwyneb y ddaear ac ychydig islaw’r ‘tropoffin’. Mae ei leoliad yn darogan os fydd hi’n sefydlog neu’n ansefydlog; gan amlaf, pan fydd y jetlif yn gorwedd i’r gogledd o Ynysoedd Prydain mi fydd hi’n sefydlog ac i’r de yn ansefydlog. Yr wythnos hon, mae’r jetlif yn gorwedd ymhell i’r gogledd gan ddod â thywydd sych a braf ar y cyfan ac mewn awelon sy’n chwythu o’r gogledd-ddwyrain, rhannau gorllewinol gan gynnwys Cymru sy'n gweld y gorau o'r tywydd.

Ac mae’r tywydd ffafriol yn cael ei groesawu’n fawr wrth gwrs, mae byd natur yn ffynnu ar tir yn sychu’n gyflym a nifer o amaethwyr wedi dechrau ar y silwair. Ond yn yr heulwen mae Lefel yr UV yn Uchel ac i’r rhai sy’n dioddef o glefyd y gwair mae Lefel y Paill yn Gymedrol. Felly os fyddwch allan yn mwynhau’r heulwen, cadwch hynny mewn cof.

Felly beth am obeithio na fydd y Jetlif na’r gwasgedd uchel yn symud rhyw lawer wythnos nesa a chroesi bysedd am dywydd caredig ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd! Cadwch lygaid ar y rhagolygon!

Paill

18.05.18 Postwyd gan: Megan Williams @meganeleri

Paill

Mae yna dywydd addawol o’n blaenau ni yn ystod y Penwythnos sy’n newyddion da, ond i’r rhai sy’n dioddef o glefyd y paill mae diwrnodiau braf yn gallu bod yn ddiflas! Gan amlaf, mae clefyd y paill yn gysylltiedig â thymor yr haf ond gall ddechrau mor gynnar â mis Ionawr a gorffen ddiwedd Medi, felly newyddion drwg i’r rhai sy’n dioddef!

Nid y blodau hardd a lliwgar sydd bennaf ar fai am glefyd y paill ond y planhigion di-liw. Rhain sy’n cynhyrchu’r mwyaf o baill, felly coed, gwair a chwyn â phaill y gwahanol blanhigion yn eu hanterth ar wahanol gyfnodau o’r gwanwyn ar haf;

-          Paill y Coed: diwedd Mawrth - canol Mai

-          Paill y Gwair: canol Mai - Gorffennaf

-          Paill Chwyn: diwedd Mehefin - Medi

Mae paill wedi ei wneud o ronynnau mân iawn sy’n cael eu rhyddhau o blanhigion a choed ac mae gan y sawl sy’n dioddef alergedd i’r gronynnau yma. Mae’r planhigion di-liw yn wych am ddefnyddio’r gwynt i chwythu eu paill; gelwir y rhain yn ‘Anemophilous’. Mae’r paill yn fychan a niferus iawn ac yn gallu gwneud eu ffordd i’r trwyn ar lygaid yn hawdd!

Mae clefyd y paill yn effeithio ar 1 mewn 5 o’r boblogaeth ar ran helaeth yn blant gyda bechgyn yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr! Mae’n arferol i‘r symptomau leihau wrth i blant dyfu a 15%  yn gweld y clefyd yn diflannu’n llwyr erbyn tyfu'n oedolyn.

Felly, mwynhewch y tywydd dymunol yn ystod y dyddiau nesa ond yn byddwch yn ofalus a chofiwch y bydd Lefelau'r UV yn uchel hefyd!